Protest yn Charlotte, Gogledd Carolina
Mae’r heddlu yng Ngogledd Carolina wedi datgan eu bwriad i gyhoeddi lluniau o’r heddlu’n saethu dyn croenddu yn farw yn ninas Charlotte.

Fe fu cryn bwysau ar yr heddlu i gyhoeddi’r lluniau.

Dywedodd pennaeth yr heddlu, Kerr Putney y byddai fideo ar gael ar y we ac y byddai’r deunydd, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, yn dangos bod Keith Lamont Scott yn dal dryll pan gafodd ei saethu’n farw.

Fe fu pum niwrnod o brotestiadau yn dilyn y digwyddiad, ac fe wnaethon nhw droi’n dreisgar ar ôl sawl diwrnod.

Cafodd 44 o bobol eu harestio, a chafodd un protestiwr ei saethu’n farw ddydd Iau, ond mae’r heddlu’n mynnu nad oedden nhw’n gyfrifol am farwolaeth Justin Carr, 26.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond mae’r heddlu’n mynnu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Dywedodd Putney fod gan Scott gyffuriau yn ei feddiant pan gafodd ei gar ei stopio.