Yng Ngwlad Thai, mae dyn â phasbort gwledydd Prydain wedi’i gyhuddo o fod â chorff dynol wedi dorri’n ddarnau mewn rhewgell.

Fe gafodd y dyn ei arestio, ynghyd â dau unigolyn arall, yn Bangkok ddydd Gwener, lle daethpwyd o hyd i arfau a bwledi hefyd.

Roedd dau o’r dynion, 33 a 66 oed, yn ddeiliaid pasborts yr Unol Daleithiau, tra bod y trydydd dyn yn berchen ar basport Prydeinig a cherdyn adnabod Americanaidd.

Fe ddaethpwyd o hyd i rewgell fawr yn yr adeilad mewn bloc o fflatiau. Yn y rhewgell honno roedd corff wedi’i dorri’n nifer o ddarnau ac wedi’i lapio mewn sachau duon.

Mae’r tri dyn wedi’u cyhuddo o guddio corff, o geisio gwyrdroi cws cyfiawnder, ac o fod â phasborts ffug yn eu meddiant. Maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o fod â chyffuriau yn eu meddiant – yn cynnwys Ketamine a Crystal Meth.