Mae o leia’ 24 o bobol wedi’u lladd, wedi i fws yr oedden nhw’n teithio arno blymio i mewn i afon yn Kashmir, Pacistan.

Y gred ydi mai dim ond un sydd wedi goroesi, wedi i’r bws ddisgyn i afon Neelum nos Wener.

Dim ond pedwar o gyrff sydd wedi’u canfod hyd yma, ond mae’r ymgyrch i chwilio am fwy yn parhau.

Mae’r teithiwr sydd wedi goroesi’r ddamwain wedi cadarnhau fod cyfanswm o 25 ar y bws.