Brian May
Mae’r gitarydd enwog Brian May wedi condemnio hela’r dolffin yn Japan, gan fynnu bod yr arferiad yn yr un cae â chaethwasiaeth a llosgi gwrachod.

Yn fwy enwog am amddiffyn moch daear rhag cael eu difa, mae’r gitarydd draw yn Tokyo yn gigio gyda’r hyn sy’n weddill o Queen, ac wedi dweud; “Nid yw hyn am wledydd. Mae hyn am un rhan o’r ddynolryw sydd eto i ddeall bod gan anifeiliaid deimladau hefyd.”

Mae sawl selebriti, gan gynnwys Sting a Daryl Hannah, wedi protestio yn erbyn hela’r dolffin ers i’r arferiad gael sylw mewn ffilm ddogfen o’r enw The Cove.

Yn y ffilm, wnaeth ennill Oscar, mae’r dolffiniaid yn cael eu corlannu mewn rhwyd cyn cael eu waldio’n farw.

Ychwanegodd Brian May: “Rydw i’n adnabod gymaint o bobol Japan. Maen nhw’n bobol iawn. Clên… ond tydyn nhw ddim yn gwybod bod hyn yn digwydd.

“Dyma famaliaid hynod glyfar, creaduriaid sensitif, yn magu eu plant fel yr ydan ni yn ei wneud, ac maen nhw’n cael eu harteithio a’u lladd.”

Eisoes mae Brian May wedi condemnio hela’r llwynog, ymladd teirw a difa moch daear.