Mae cyrffyw mewn lle yn ninas Charlotte, Gogledd Carolina, wrth i brotestwyr ymgasglu ar strydoedd y ddinas am y drydedd noson yn olynol.

Mae eu galwadau yn rhoi pwysau ar heddlu’r ddinas i gyhoeddi fideo o ddyn du yn cael ei saethu’n farw gan un o’i swyddogion er mwyn dod â’r dyfalu i ben ynghylch amgylchiadau’r digwyddiad.

Fe wnaeth protestwyr geisio dringo i briffordd drwy’r ddinas, ond cawson nhw eu gwthio yn ôl gan heddlu terfysg.

Mae cyrffyw rhwng canol nos a 6 o’r gloch y bore yn y ddinas erbyn hyn, a’r Gwarchodlu Cenedlaethol yn helpu’r heddlu i dawelu’r dyfroedd.

Galw am gyhoeddi fideo

Hyd yn hyn, dydy’r heddlu heb gyhoeddi’r ffilm o farwolaeth Keith Scott, 43, a gafodd ei ladd yn gynharach yr wythnos hon.

Mae ei deulu wedi gweld y fideo ac yn galw ar yr heddlu i’w gyhoeddi i’r cyhoedd. Dywedodd cyfreithiwr y teulu nad oedd yn gallu gweld os oedd Keith Scott yn dal gwn.

Mae pennaeth Heddlu Charlotte-Mecklenbug, Kerr Putney, wedi gwrthod cyhoeddi’r fideo, gan y gallai “danseilio’r ymchwiliad.”

Dywedodd y byddai’r fideo yn gyhoeddus pan fydd yn credu bod “rheswm anorfod” dros wneud hynny.

Protestiadau ledled America

Charlotte yw’r ddinas ddiweddaraf yn America i gael ei hysgwyd gan brotestiadau dros farwolaethau dynion du drwy law’r heddlu.

Mae’r rhestr yn cynnwys dinasoedd Baltimore, Milwaukee, Chicago, Efrog Newydd a Ferguson, Missouri.

Yn Tulsa, Oklahoma, fe wnaeth erlynwyr gyhuddo plismon gwyn o ddynladdiad yr wythnos ddiwethaf am ladd dyn du, oedd ddim yn cario arf.