Mae protestiwr yn ymladd am ei fywyd ar ôl cael ei anafu’n ddifrifol mewn gwylnos yn ninas fwya’ Gogledd Carolina wedi i ddyn du gael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Mae’r awdurdodau yn ceisio tawelu’r dyfroedd wrth i densiynau godi ac mae llywodraethwr y dalaith, Pat McCrory, wedi cyhoeddi bod dinas Charlotte mewn stad o argyfwng.

Mae protestiadau treisgar wedi bod ers dwy noson bellach, gyda’r heddlu yn defnyddio nwy dagrau i wahanu’r torfeydd.

Dywedodd Pat McCrory y byddai’n anfon y Gwarchodlu Cenedlaethol i’r ddinas wrth i brotestwyr ymosod ar ohebwyr a phobol eraill, torri ffenestri a dechrau tanau.

Dechrau heddychlon

Fe ddechreuodd protestiadau nos Fercher fel gwylnos ond fe wnaeth grŵp ddechrau gorymdeithio drwy ganol y ddinas, gyda’r orymdaith yn troi’n un dreisgar ar ôl i brotestiwr gael ei saethu.

Mae swyddogion y ddinas yn dweud mai nid yr heddlu oedd yn gyfrifol saethu’r protestiwr.

Cafodd Keith Scott, 43, ei saethu’n farw gan blismon du dydd Mawrth, gyda’r heddlu yn dweud bod ganddo wn.

Ond mae cymdogion a’i deulu yn dweud mai dim ond llyfr oedd ganddo wrth iddo aros i’w fab adael bws yr ysgol.

Ynghyd â’r protestiwr a gafodd ei saethu, dywedodd parafeddygon bod dau berson arall a chwe phlismon wedi cael anafiadau bychan.