Dalai Lama
Fe ddylai ffoaduriaid sy’n cael eu gorfodi o’u cartrefi oherwydd rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol, anelu at ddychwelyd adre’ rhyw ddydd er mwyn ail-adeiladu eu mamwlad.

Dyna farn y Dalai Lama, arweinydd ysbrydol Tibet, wrth iddo sôn am bobol o Syria a Libya sydd wedi gadael gwledydd lle maen nhw’n ofni am eu bywydau.

Mae’r Dalai Lama ei hun yn alltud ar sail gwleidyddol, ac wedi gorfod byw y tu allan i’w famwlad ers ffoi yn 1959, ddeng mlynedd ers i China feddiannu Tibet.

“Y prif nod trwy hyn i gyd ddylai fod i ymdrechu i ddod â heddwch i’r gwledydd y maen nhw wedi eu gadael – yn Syria, Libya a hyd yn oed yn Afghanistan,” meddai’r Dalai Lama. “Yn gyffredinol, mae pawb yn gobeithio y byddan nhw’n cael dychwelyd i’w mamwlad rhyw ddydd.

“Ac fe ddylai pawb, yn fy marn i, anelu at ddychwelyd i’w famwlad yn y pen draw. Fe ddylen nhw anelu at ail-adeiladu eu gwledydd eu hunain.”