Mae un o offeiriaid Byddin yr Iachawdwriaeth wedi marw mewn ysbyty yn Johannesburg, De Affrica, wedi iddo gael ei anafu mewn ymosodiad tra ar daith bregethu yn Malawi.

Bu farw’r Awstraliad, Geoff Friend, 59, gyda’i wraig a’i bedwar mab ar erchwyn ei wely. Roedd yn hanu o ddinas Perth ac wedi bod ar daith bregethu bump wythnos o hyd yn Affrica.

Roedd hefyd yn awdur llyfrau ysbrydol, Enjoy the Journey, Thank You For The Journey ac A Great Journey.

Roedd Geoff Friend wedi ymweld â nifer o wledydd de-ddwyrain Asia yn ogystal ag Affrica yn ystod ei 34 blynedd gyda Byddin yr Iachawdwriaeth.