Mae pedwar aelod o staff wedi’u lladd yn ystod cyrch o’r awyr ar ganolfan feddygol yn Syria.

Fe loriwyd canolfan yn nhre’ Khan Touman i’r de o ddinas Aleppo, a hynny mewn ardal sydd dan reolaeth gwrthryfelwyr.

Mae adroddiadau lleol yn dweud fod cyfanswm o 13 o bobol wedi’u lladd yn y digwyddiad – pedwar nyrs a pharafeddygon, a naw o wrthryfelwyr.