Mae’r para-seiclwr o Iran, Bahman Golbarnezhad wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ystod ras feics C4/C5 yng Ngemau Paralympaidd Rio.

Golbarnezhad, 48, yw’r para-athletwr erioed i gael ei ladd yn ystod cystadleuaeth.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod sut y digwyddodd y gwrthdrawiad ar Avenida Estado da Guanabara ar gylchred Grumari, ac fe fydd teyrnged yn cael ei rhoi i Golbarnezhad yn ystod seremoni cloi’r Gemau nos Sul.

Yn ôl swyddogion, collodd Golbarnezhad reolaeth ar ei feic cyn taro ffens neu wal.

Cafodd e driniaeth ar y safle cyn cael ei drosglwyddo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Llywydd yr IPC, Syr Philip Craven: “Mae hwn yn ddiwrnod trasig i’r mudiad Paralympaidd a hefyd i’r Gemau yma yn Rio.

“Mae’r teulu Paralympaidd yn unedig yn ei alar yn dilyn trasiedi erchyll sy’n gysgod tros Gemau Paralympaidd gwych yma yn Rio.”