Aleppo
Er bod cadoediad Syria yn parhau am y tro,  dyw cymorth dyngarol ddim wedi cyrraedd rhai ardaloedd yn ninas Aleppo, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae lluoedd y llywodraeth a gwrthryfelwyr yn barod i adael ardal Castello yn y ddinas, a’i throsglwyddo i ofal milwyr o Rwsia. Ond fyddan nhw ddim yn symud cam o’r lle nes i’r gwrthryfelwyr wneud yr un peth.

Dechreuodd y cadoediad ddydd Llun, fel rhan o gytundeb rhwng Rwsia ac America, sydd hefyd yn galw am alluogi cymorth dyngarol i gyrraedd rhannau o Aleppo sydd dan warchae.

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod 20 o’i gerbydau sy’n cludo cymorth yn dal i fod ger tollfeydd ar y ffin â Thwrci ers dydd Mercher.