Mae un dyn wedi’i ladd yn Taiwan wedi i deiffŵn daro’r ynys a rhannau o dde-ddwyrain China.

Mae asiantaeth newyddion yn adrodd fod 44 o bobol wedi’u hanafu o ganlyniad i Deiffŵn Meranti. Mae miliwn o gartrefi wedi colli eu cyflenwad trydan, ac mae 700,000 heb ddŵr.

Does neb wedi’i ladd yn China yn dilyn y storm a darodd dalaith ddeheuol Fujian – er bod ffenestri wedi’u malu’n deilchion a bod cyflenwad dŵr wedi’i effeithio.

Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd y storm yn colli rhywfaint o’i grym wrth iddi symud tua’r gogledd.