Mae beth bynnag chwech o deithwyr wedi’u lladd, a mwy na 100 arall wedi’u hanafu, wedi i drên nwyddau fod mewn gwrthdrawiad â thrên yn cario pobol ger dinas Multan yng nghanolbarth Pacistan.

Fe ddigwyddodd y ddamwain cyn bod yr haul wedi codi fore Iau, ger tre’ Sher Khan yn nhalaith Punjab, chwarter awr wedi i’r trên nwyddau ddod i stop ar ôl taro dyn ar y trac.

Roedd y trên wedi stopio er mwyn i’r gyrrwr allu codi corff y dyn a gafodd ei daro wrth geisio croesi o flaen y trên nwyddau.

A dyna pryd y daeth y trên yn cario pobol a tharo’r trên nwyddau.