Shimon Peres (Llun: Wikipedia)
Mae Shimon Peres, cyn-arlywydd Israel, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn Tel Aviv, ar ôl cael strôc fawr.

Mae meddygon yng Nghanolfan Feddygol Sheba yn y brifddinas, yn dweud fod yr enillydd Gwobr Heddwch Nobel 93 oed wedi’i roi mewn coma er mwyn i’w gorff geisio dod ato’i hun wedi gwaedlif ar yr ymennydd.

Fe gafodd Shimon Peres ei gludo i’r ysbyty ddydd Mawrth am nad oedd yn teimlo’n dda, ac fe ddangosodd profion ei fod wedi cael strôc. Mae ei fab-yng-nghyfraith, Rafi Valden, yn feddyg iddo, ac mae’n dweud y dylai Mr Peres wella’n llwyr.

Yn ystod gyrfa wleidyddol sy’n ymestyn dros saith degawd, mae Shimon Peres yn cael ei ystyried y cysylltiad ola’ sydd gan y wlad bellach â’r “tadau” a’i sefydlodd hi. Mae wedi bod yn brif weinidog deirgwaith, ac mae wedi bod weinidog tramor, yn weinidog amddiffyn ac yn weinidog ariannol.

Ef oedd enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1994 am ei waith yn llunio cytundeb heddwch dros-dro gyda’r Palesteiniaid.