Mae tair dynes wedi cael eu saethu’n farw ar ôl iddyn nhw anafu dau blismon yn ystod ymosodiad ar orsaf heddlu yn Kenya.

Digwyddodd yr ymosodiad ym Mombasa.

Roedden nhw’n gwisgo gwisg draddodiadol y burkha, ond dydy’r un o’r grwpiau Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Ond mae ymosodiadau gan al-Shabab – sy’n gysylltiedig ag al Qaida – yn gyffredin yn Kenya oherwydd fod gan Kenya filwyr yn Somalia ers 2011.