Mae dyn wedi’i ddedfrydu i farwolaeth yn India am ladd ei gymdoges trwy daflu asid sylffiwrig ati – a hynny oherwydd iddi wrthod ei briodi dair blynedd yn ôl.

Dyma’r tro cynta’ i ddedfryd o farwolaeth gael ei rhoi am y math hwn o ymosodiad. Mae llywodraeth India yn dweud ei bod yn trïo taclo nifer y troseddau’n erbyn merched.

Cafodd Ankur Panwar ei ddedfrydu mewn llys yn Mumbai, wedi i’r llys ei gael yn euog o ladd Preeti Rathi, 23.

Bu’r wraig ifanc farw o ganlyniad i’w hanafiadau, 30 niwrnod ar ôl yr ymosodiad. Roedd yr asid wedi gwneud difrod ofnadwy i’w hysgyfaint, ei gwddw a’i golwg.