Llun: PA
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am ddau ffrwydrad y tu allan i Weinyddiaeth Amddiffyn Afghanistan sydd wedi lladd o leiaf 24 o bobol.

Ymysg y meirw mae dau gadfridog a phum plismon. Fe wnaeth hunan-fomiwr, oedd wedi gwisgo fel swyddog milwrol, danio’r ail ffrwydrad wedi i’r lluoedd arfog gyrraedd y safle yng nghanol dinas Kabul.

Cafodd y ffrwydrad cyntaf ei danio wrth i weithwyr y weinyddiaeth adael eu gwaith am y diwrnod.

Dywedodd llefarydd iechyd y Weinyddiaeth Ismail Kawasi, bod 91 o bobol eraill wedi cael eu hanafu.

Mae grŵp brawychol y Taliban wedi bod yn ymladd i geisio disodli’r llywodraeth yn Afghanistan ers pymtheg mlynedd ac yn targedu lluoedd arfog y wlad yn gyson.