Mae o leiaf dau berson wedi marw wedi i faes parcio tanddaearol ddymchwel yn un o ddinasoedd mwyaf Israel, Tel Aviv.

Mae ymdrechion yn parhau i achub pobol o’r rwbel yn y maes parcio aml-lawr yn ardal Ramat Hahayal ar ol i’r adeilad ddymchwel am tua hanner dydd.

Mae o leiaf 17 o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn ôl yr heddlu a thimau achub lleol.

Roedd gweithwyr adeiladu ynghanol cwblhau’r gwaith o adeiladu’r maes parcio pan fu iddo ddymchwel.

Daeth cadarnhad gan awdurdodau bod dyn 35 oed a dyn arall wedi cael eu lladd a bod ymchwiliad i achos y digwyddiad ar y gweill.