Mae cyfres o ymosodiadau ledled dinas Baghdad, wedi lladd 15 o bobol, ac wedi anafu mwy na 50 o bobol eraill.
Fe daniwyd beth bynnag dair roced i gyfeiriad dwyrain prifddinas Irac fore Gwener, gan ladd pump o bobol gyffredin ac anafu 15 o bobol, meddai’r heddlu lleol. Y gred ydi fod y rocedi wedi’u hanelu at warws storio arfau, ac mae pobol leol yn dweud mai grwp Shiaidd, Asaib Ahl al-Haq oedd yn gyfrifol.
Yng nghymuned Sunni, Ghazaliya, wedyn, fe ffrwydrodd bom yng nghanol stryd siopa, gan ladd dau o bobol ac anafu wyth.
Mae’n ddiwrnod sanctaidd yn Baghdad heddiw, wrth i drigolion nodi dyddiad merthyrdod y nawfed Imam Shiaidd, Kadhimiya, ac mae ymwelwyr wedi bod yn tyrru i’r ddinas.
Does yna’r un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yma.