Mae pryder bod llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ar fin ffrwydro, ac y gallai hynny orfodi awyrennau gwledydd Prydain i beidio hedfan.

Mae Swyddfa Dywydd y wlad wedi rhybuddio y gall llosgfynydd Katia ffrwydro o fewn y dyddiau nesaf, ac y byddai hyn yn golygu bod cwmwl o lwch yn gorchuddio’r awyr yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae pryderon y gallai’r ffrwydrad fod cyn waethed ag un llosgfynydd Eyjafjallajokull yn 2010 a arweiniodd at ganslo hediadau ar draws Ewrop am bum diwrnod.

Cafodd tua 10 miliwn o deithwyr eu dal ymhell o adref gan y trafferthion.

Mae arbenigwyr yn dweud bod llosgfynydd Katia mor fawr, os nad yn fwy na Eyjafjallajokull.