Y difrod yn Amatrice wedi'r daeargryn (Llun: PA)
Fe wnaeth Prif Weinidog yr Eidal dro pedol neithiwr wrth gyhoeddi y byddai’r ail angladd gwladol er cof am ddioddefwyr y ddaeargryn wythnos diwethaf yn cael ei gynnal yn Amatrice yn hytrach nag mewn dinas 40 milltir i ffwrdd.

Dyma fydd yr ail wasanaeth cyhoeddus i gofio’r 292 o bobol a laddwyd gan y daeargryn ar Awst 24 gan ddinistrio tair tref yng nghanol yr Eidal.

Roedd y gwasanaeth cyntaf ddydd Sadwrn er cof am ddioddefwyr o ranbarth Le Marche, a’r gwasanaeth heddiw er cof am ddioddefwyr o Lazio gan gynnwys tref Amatrice.

Ond, bwriad y Llywodraeth oedd cynnal y gwasanaeth heddiw yn ninas Rieti, 40 milltir i ffwrdd o Amatrice, am resymau diogelwch wedi i’r ardal ddioddef mwy na 2,500 o ôl-ddirgryniadau.

Ond, fe wrthododd rhai o drigolion lleol y cynlluniau hynny a fyddai’n golygu teithio yno neu wylio’r gwasanaeth ar y teledu gan beri i’r Prif Weinidog, Matteo Renzi, wneud tro pedol nos Lun.

Mae heddiw hefyd yn nodi ail ddiwrnod o alar cenedlaethol yn yr Eidal, gyda baneri ar adeiladau cyhoeddus yn chwifio’n isel.