Pentyrrau o gyrff y ceirw ar lwyfandir Hardangervidda yn Norwy (llun: Asiantaeth yr Amgylchedd Norwy, trwy AP)
Cafodd dros 300 o geirw gwyllt eu lladd gan fellt yng nghanolbarth Norwy mewn storm nos Wener.

Caiff hyn ei ddisgrifio fel trychineb naturiol anghyffredin o fawr gan naturiaethwyr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Norwy wedi cyhoeddi lluniau o bentyrrau o gyrff ceirw ar lwyfandir mynyddig Hardangervidda.

Maen nhw’n dweud bod 323 o anifeiliaid wedi cael eu lladd gan gynnwys 70 o loi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth, Kjartan Knutsen, nad yw’n anghyffredin i geirw neu anifeiliaid eraill gael eu lladd gan fellt, ond nad oedden nhw erioed wedi clywed am y fath niferoedd o’r blaen.

“Mae ceirw’n dueddol o aros yn agos gyda’i gilydd mewn tywydd drwg, a allai esbonio pam fod cymaint wedi cael eu lladd ar unwaith,” meddai.

Mae miloedd o geirw’n mudo ar draws llwyfandir Hardangervidda wrth i’r tymhorau newid.