Map o wefan Wikipedia yn dangos lleoliad Yemen ar dde-orllewin penrhyn Arabia
Mae o leiaf 45 o filwyr y llywodraeth wedi cael eu lladd gan hunan-fomiwr mewn ffrwydrad anferth yn ninas Aden yn ne Yemen.

Roedd y milwyr wrthi’n paratoi i deithio i Saudi Arabia i ymladd gwrthryfelwyr Houthi gerllaw’r ffin â gogledd Yemen.

Cafodd 60 o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.

Mae Yemen yng nghanol rhyfel cartref rhwng y llywodraeth swyddogol a gwrthryfelwyr Shiite, gydag amcangyfrif o 9,000 o bobl wedi cael eu lladd yno ers mis Mawrth y llynedd.