Mae’r trafodaethau masnach rydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau wedi methu, yn ôl gweinidog economi’r Almaen.

Nid oes fawr o gynnydd wedi’i wneud yn y trafodaethau TTIP (Transatlantic Trade and Investment Partnership) dros y blynyddoedd diwethaf.

Mewn 14 cyfres o drafodaethau nid yw’r ddwy ochr wedi cytuno ar un unrhyw bennod o’r 27 sy’n cael eu trafod.

“Yn fy marn i mae’r trafodaethau gyda’r Unol Daleithiau wedi methu i bob pwrpas, er nad oes neb yn cyfaddef hynny,” meddai Sigmar Gabriel, sydd hefyd yn ddirprwy Ganghellor yr Almaen.

Wrth gymharu’r trafodaethau TIPP a chytundeb diweddar rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Canada, dywedodd Sigmar Gabriel fod y cytundeb hwnnw wedi bod yn decach i’r ddwy ochr.

Mae’r trafodaethau TIPP wedi bod yn ddadleuol ledled Ewrop gydag ofnau y byddai’n agor y drws i gwmnïau masnachol o America gystadlu am gytundebau gwasanaethau cyhoeddus yn Ewrop.