Galarwyr yn cludo arch yr eneth 9 oed, Guilia Rinaldo yn yr angladd gwladol yn Ascoli Piceno ddoe (AP Photo/Gregorio Borgia)
Gyda nifer y meirw bellach wedi codi i 291, mae’r Eidal yn dal mewn galar wedi’r daeargryn yr wythnos ddiwethaf.

Yn nhref fechan Ascoli Piceno yng nghanol y wlad ddoe, daeth cannoedd ynghyd i angladd gwladol 35 o’r lladdedigion.

Clywodd y galarwyr yr esgob yn adrodd hanes torcalonnus merch 9 oed, Giulia Rinaldo, y cafwyd hyd iddi’n cofleidio ei chwaer fach, Giorgia.

Roedd Guilia wedi marw, ond Giorgia yn dal yn fyw, gyda choflaid ei chwaer hŷn wedi achub ei bywyd.

Roedd Guilia ymhlith y rhai a gafodd eu claddu ddoe, tra oedd ei chwaer fach yn cael ei phenblwydd yn bedair oed yn gwella mewn ysbyty leol.

A hithau’n ddydd o alar cenedlaethol ledled y wlad, gyda baneri ar hanner y mast, pwysodd yr esgob lleol, Giovanni D’Ercole, ar i bobl ailadeiladu eu cymunedau.

“Peidiwch â bod ofn wylo yn eich dioddefaint, ond peidiwch ag anobeithio,” meddai. “Dim ond gyda’n gilydd y gallwn ni ailadeiladu ein tai a’n heglwysi. Gyda’n gilydd, yn bennaf oll, y byddwn ni’n gallu adfer bywyd i’n cymunedau.”

Yn Amatrice gerllaw, y dref a ddioddefodd waethaf yn y daeargryn ddydd Mercher, mae llawer o’r cyrff yn dal heb gael eu hadnabod.

Fe fydd gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal ar gyrion y dref ddydd Mawrth.