Mae dinas Aleppo yng ngogledd-orllewin Syria (map wikipedia)
Mae o leiaf 15 o bobl gyffredin wedi cael eu lladd mewn ymosodiad bomiau baril yn ninas Aleppo yn Syria.

Lluoedd llywodraeth y wlad sy’n cael eu hamau o ollwng y bomiau o hofrenyddion ar y ddinas sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr, a’r ofnau yw y bydd nifer y marwolaethau’n cynyddu.

Roedd rhai o’r dioddefwyr mewn gwasanaeth i goffáu 11 o blant a gafodd eu lladd mewn ymosodiad o’r awyr ddydd Iau yn yr un lle.

Er bod y llywodraeth yn gwadu defnyddio bomiau baril, y nhw a’r Rwsiaid yw’r unig rai sy’n defnyddio hofrenyddion uwchben Aleppo.