Mae prif lys gweinyddol Ffrainc wedi gwyrdroi’r penderfyniad i wahardd gwisg y Burkini ar draethau’r Riviera yn y wlad.

Roedd y penderfyniad i wahardd Burkinis wedi dod yn bwnc llosg wedi i blismyn arfog orfodi merched Mwslemaidd i dynnu’r gwisgoedd sy’n gorchuddio’r corff.

Mae cyfreithwyr hawliau dynol wedi llwyddo i godi’r gwaharddiad oedd mewn grym mewn tua 30 o drefi ac ardaloedd glan y môr.

Roedd sawl un yn Ffrainc wedi dadlau bod y Burkini yn sarhau merched a bu pryderon yn sgîl ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd yr Haf hwn.

Ond roedd y gwaharddiad yn cael ei feirniadu am fwydo casineb gwrth-Foslemaidd.

Anwybyddu’r llys a pharhau i wahardd

Mae’r llys wedi codi’r gwaharddiad ar y Burkini yn nhref glan môr Villeneuve-Loubet, ac mae disgwyl i’r penderfyniad hwnnw fod yn gynsail i godi’r gwaharddiad mewn tua 30 o drefi glan môr tebyg.

Ond mae Maer Sisco yng Nghorsica wedi dweud na fydd yn codi’r gwaharddiad er gwaetha’r dyfarniad.

“Mae’r tensiwn yn gryf iawn, iawn, iawn yma ac ni fyddaf yn tynnu’r gwaharddiad yn ôl,” meddai Ange-Pierre Vivoni sydd wedi gwahardd Burkinis ers i ffrae godi ar draeth yno ar Awst 13.