Ryan Lochte - tudalen flaen ei wefan
Fe allai’r nofiwr o’r Unol Daleithiau, Ryan Lochte gael ei garcharu am 18 mis oherwydd cyhuddiad ei fod wedi gwneud honiad ffug am ladrad yn ystod Gemau Olympaidd Rio de Janeiro.

Os yw Lochte yn gwrthod dychwelyd i Frasil, fe allai’r achos gael ei gynnal yn ei absenoldeb ond dyw hi ddim yn glir eto a fyddai’r Unol Daleithiau’n fodlon ei anfon i Brsil pe bai’n cael ei ddyfarnu’n euog.

Mae disgwyl hefyd i’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (IOC) benderfynu a fyddan nhw’n ei gosbi yn dilyn yr helynt.

Y cefndir

Roedd Lochte wedi honni ei fod lladron mewn dillad heddlu wedi ymosod arno ef a’i gydwladwyr Jack Conger, Gunnar Bentz a Jimmy Feigen, mewn tacsi wrth iddyn nhw ddychwelyd i bentre’r athletwyr Olympaidd yn Rio ar Awst 15.

Ond mae lluniau camera cylch-cyfyng wedi dangos mai swyddogion diogelwch oedd y dynion arfog, a’u bod nhw’n ymateb ar ôl i’r nofwyr ddifrodi drws tŷ bach mewn garej ar ôl meddwi.

Dychwelodd Lochte i’r Unol Daleithiau ddyddiau ar ôl y digwyddiad, ac fe gafodd Conger a Bentz eu tynnu oddi ar awyren gan yr awdurdodau er mwyn eu holi.

Chafodd Feigen ddim o’i gyhuddo, ac fe gafodd y tri adael Brasil.

Mae Lochte bellach yn cyfaddef ei fod e wedi meddwi a bod ffrwgwd wedi digwydd.