Cizre o'r awyr (Rehman Abubakr)
Mae o leia’ wyth o blismyn wedi cael eu lladd ar ôl i fom gael ei ffrwydro mewn car yn ne-ddwyrain Twrci.
Yn ôl un asiantaeth newyddion yn y wlad, cafodd 45 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad yn nhref Cizre yn nhalaith Sirnak pan gafodd bom ei ffrwydro o fewn 50 llath i orsaf heddlu.
Mae’r awdurdodau yn Nhwrci yn awgrymu mai gwrthryfelwyr Cwrdaidd oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.
Mae aelodau’r PKK – neu Blaid Gweithwyr y Cwrdiaid – wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau tebyg yn erbyn yr heddlu a’r fyddin yn ystod y misoedd diwetha’.
Mae Llywodraeth Twrci wedi bod yn ymgyrchu yn eu herbyn nhwthau gan geisio eu cyplysu gyda’r bygythiad o gyfeiriad mudiad Moslemaidd IS.