Timau achub yn chwilio drwy'r rwbel yn Amatrice, yr Eidal Llun: (Massimo Percossi/ANSA via AP)
Mae o leiaf 120 o bobl wedi marw a channoedd wedi eu hanafu wedi i ddaeargryn nerthol yng nghanol yr Eidal ddinistrio tair tref.

Mae nifer y meirw’n debygol o godi wrth i dimau achub gyrraedd pentrefi mwy anghysbell ac mae’r awdurdodau hefyd wedi dweud y bydd miloedd angen llety dros dro yn dilyn y daeargryn.

Y trefi sydd wedi’u heffeithio waethaf yw Amatrice ac Accumoli ger Rieti, yn Perugia tua 80 milltir o’r gogledd orllewin o Rufain.

Mae’r ardal yn fan gwyliau poblogaidd yn yr haf gan wneud y gwaith yn anoddach i griwiau achub wrth geisio amcangyfrif faint o bobl oedd yn yr ardal ar y pryd.

Fe darodd y daeargryn am 3.36yb (amser lleol), gan ddymchwel adeiladau, wrth i bobl gysgu.

Roedd y daeargryn yn mesur 6 ar raddfa Richter ac wedi cael ei deimlo mewn nifer o lefydd yng nghanol yr Eidal, yn rhanbarthau Lazio, Umbria a Le Marche, gan gynnwys Rhufain.

“Nid yw’r dref yma bellach,” meddai maer Amatrice, Sergio Pirozzi lle mae adeiladau cyfan wedi dymchwel.

Fe fu’r trigolion lleol yn cysgodi mewn piazzas wrth i’r ôl-gryniadau, rhai ohonynt mor gryf ag 5.1 ar y raddfa Richter, barhau tan yr oriau man.

Prif Weinidog yr Eidal ar ei ffordd i’r ardal 

Mae Prif Weinidog yr Eidal Matteo Renzi ar ei ffordd i’r ardal  sydd wedi dioddef daeargrynfeydd sawl gwaith o’r blaen.

Ers y bore ‘ma, mae timau achub a thrigolion lleol wedi bod yn chwilio am bobl sy’n gaeth o dan  y rwbel. Yn Amatrice, dywedodd y Parchedig Fabio Gammarota, offeiriad plwyf cyfagos, ei fod wedi bendithio saith corff hyd yn hyn gan gynnwys un o’i ffrindiau.

Dywedodd maer tref Accumoli, Stefano Petrucci, bod o leiaf chwech o bobl wedi marw yno, gan gynnwys teulu o bedwar, a dau o bobl eraill.

Mae’r Pab wedi gohirio ei gynlluniau ac wedi gwahodd pererinion yn Sgwâr San Pedr i weddïo gydag o.