Tanciau lluoedd Twrci yn gwarchod y ffin a Syria Llun: PA
Mae lluoedd arfog Twrci wedi lansio ymgyrch dros y ffin yn Syria i gael gwared a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) o dref yno.

Mae gorsaf deledu yn Nhwrci yn adrodd bod nifer fach o luoedd arbennig y wlad a tanciau wedi croesi i Syria fel rhan o’r ymgyrch.

Dywedodd yr awdurdodau bod y wlad wedi lansio’r ymgyrch er mwyn rhyddhau tref Jarablus, sydd ar y ffin â Thwrci, o grafangau IS ac  er mwyn diogelu ei ddiogelwch ei hun.

Ychwanegodd y gweinidog bod yr ymgyrch yn mynd rhagddi ar y cyd â gwrthryfelwyr cymedrol Syria a lluoedd y glymblaid o dan arweiniad yr Unol Daleithiau.

Mae adroddiadau bod gwrthryfelwyr yn Syria bellach wedi llwyddo i feddiannu pentref ger Jarablus yn dilyn y cyrch gan luoedd Twrci.

‘Cefnogaeth’

Daw’r ymgyrch cyn i Ddirprwy Arlywydd America Joe Biden lanio’n Ankara ar gyfer trafodaethau sy’n cynnwys datblygiadau yn Syria.

Mae’r ymosodiad yn dilyn addewid gan Weinidog Tramor Twrci Mevlet Cavusolgu ddydd Mawrth y byddai’r wlad yn rhoi “pob math” o gefnogaeth i’r frwydr yn erbyn IS ar hyd ei ffin 62 milltir â Syria.

Ond mae pryder y bydd y datblygiad yn gweld lluoedd Twrci yn dod wyneb yn wyneb â milwyr Cwrdaidd sy’n cael eu cefnogi gan yr Unol Daleithiau yn Syria.

Y Cwrdiaid sydd wedi bod fwyaf effeithiol yn erbyn IS ond mae Ankara yn pryderu am bŵer cynyddol y lluoedd Cwrdaidd ac mae Twrci’n honni eu bod nhw’n gysylltiedig â grwpiau Cwrdaidd eraill sy’n gwrthryfela yn ne ddwyrain Twrci.

Mae tref Jarablus yn Syria yn gorwedd ar lan orllewinol Afon Ewffrates lle mae’n croesi o Dwrci i Syria. Mae’n un o’r trefi pwysig olaf i gael ei meddiannu gan IS rhwng yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli gan y Cwrdiaid yng ngogledd Syria.