Y Twr Eiffel ym Mharis (Llun: Wicipedia)
Mae llai o dwristiaid yn ymweld â Pharis yn dilyn yr ymosodiadau brawychol y llynedd, a chyfnod o streiciau, gweithredu diwydiannol treisgar a llifogydd.

Cafodd ffigurau eu cyhoeddi gan y swyddfa dwristiaeth ranbarthol yr wythnos hon sy’n dangos bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr ymwelwyr yn hanner cyntaf 2016, yn enwedig ymhlith twristiaid o Japan, Rwsia a China.

Roedd gwariant ar westyau wedi gostwng yn sylweddol ond roedd hynny’n bennaf oherwydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros mewn fflatiau preifat.

Mae’r Gweinidog Tramor Jean-Marc Ayrault wedi galw am gyfarfod ar ddechrau mis Medi i geisio ystyried ffyrdd i adfer y diwydiant twristiaeth ym Mharis, sy’n cynrychioli tua 7% o economi Ffrainc.

Mae’n debyg nad yw rhanbarthau eraill Ffrainc wedi cael eu heffeithio gymaint â Pharis, ond fe fu ergyd i dwristiaeth yn ardal Y Rifiera yn dilyn ymosodiad gan ddyn yn gyrru lori at dorf yn Nice fis diwethaf gan ladd 86 o bobl. Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.