Abubakar Shekau, arweinydd Boko Haram, Llun: PA
Yn ôl adroddiadau, mae arweinydd Boko Haram, Abubakar Shekau, ac arweinwyr eraill y grŵp eithafol Islamaidd, wedi cael eu lladd mewn ymosodiad awyr yn Nigeria.

Nid yw byddin Nigeria wedi datgelu sut maen nhw wedi cael y wybodaeth. Mae lluoedd diogelwch Nigeria wedi honni deirgwaith yn y gorffennol eu bod nhw wedi lladd Abubakar Shekau.

Yn ôl llefarydd ar ran y fyddin cafodd Shekau ei ladd mewn ymosodiad o’r awyr ddydd Gwener ym mhentref Taye yng Nghoedwig Sambisa yng ngogledd ddwyrain Nigeria.

Credir bod  Shekau wedi cael ei ladd ynghyd ag arweinwyr eraill y grŵp.

Roedd Abubakar Shekau wedi dechrau’r gwrthryfel yn Nigeria yn 2009 ac ers hynny mae 20,000 o bobl wedi’u lladd a mwy na 2.2 miliwn wedi ffoi o’u cartrefi.