Mae un o nofwyr Olympaidd America wedi colli nawdd pedwar o’i brif noddwyr llai na 24 awr ers i’r Gemau Olympaidd ddod i ben.

Daw hyn wedi i’r nofiwr 32 oed, Ryan Lochte, honni iddo fod mewn lladrad mewn gorsaf betrol yn Rio de Janeiro yn gynharach y mis hwn.

Ond, mae heddlu Brasil wedi cadarnhau nad oes tystiolaeth i brofi’r honiad o gwbl, gan ychwanegu bod camerâu cylch cyfyng yn dangos iddo ef gyfrannu at y difrod.

Ers hynny mae’r cwmni dillad nofio Speedo, cwmni dillad Ralph Lauren, cwmni gofal croen Syneron-Candela ynghyd â chwmni matresi o Siapan, wedi rhoi’r gorau i’w noddi.

Ychwanegodd cwmni Speedo y byddan nhw bellach yn rhoi’r £38,400 oedd i’w dalu i’r nofiwr i elusen Achub y Plant er mwyn helpu plant ym Mrasil.

“Er ein bod wedi mwynhau perthynas lwyddiannus gyda Ryan am fwy na degawd a’i fod wedi bod yn aelod pwysig o dîm Speedo, gallwn ni ddim caniatáu ymddygiad sy’n mynd yn groes i werthoedd y cwmni,” ychwanegodd llefarydd ar ran Speedo.