Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan Llun: PA
Mae Ysgrifennydd Tramor Twrci wedi mynnu eu bod yn benderfynol o ymladd eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) o fewn ei ffiniau ac yn Syria, wedi i hunan-fomiwr ifanc ladd o leiaf 53 o bobl mewn parti priodas.

Cafodd bron i 70 o bobl eu hanafu yn yr ymosodiad ddydd Sul yn ninas Gaziantep yn ne-ddwyrain Twrci, ger y ffin a Syria. Roedd o leiaf 22 o’r rhai gafodd eu lladd yn blant o dan 14 oed.

Nid oes yr un grŵp wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ond mae swyddogion yn credu mai’r Wladwriaeth Islamaidd sy’n gyfrifol. Dyma’r ymosodiad gwaethaf eto yn Nhwrci eleni, gydag Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, yn dweud bod yr hunan-fomiwr rhwng 12 a 14 oed.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor fod Twrci am ddarparu pob cefnogaeth posib i ddileu’r ardal o eithafwyr.

Yn ôl Mevlut Cavusoglu: “Mae’n rhaid gwaredu a Daesh (IS) ar y ffin ac fe fyddwn yn darparu  pa bynnag gefnogaeth sy’n angenrheidiol.”

Ychwanegodd bod Twrci wedi cael ei thargedu gan IS oherwydd y mesurau mae wedi’u cyflwyno i atal pobl rhag croesi’r ffin i Syria i ymuno a’r grŵp eithafol, yn ogystal ag arestio cannoedd o bobl sy’n cael eu hamau o fod yn rhan o IS yn Nhwrci.