Mae pump o bobol, yn cynnwys dynes feichiog, wedi’u canfod wedi’u llofruddio mewn “digwyddiad erchyll” yn ne Alabama.

Roedd plentyn pedair oed yn fyw yng nghanol y gyflafan yn ninas Citronelle, rhyw 30 milltir i’r gogledd-orllewin o Mobile. Mae’r awdurdodau’n ceisio adnabod y cyrff a rhoi gwybod i’w perthnasau.

Mwy swyddfa’r Siryf yn Mobile wedi dweud ei bod hi’n ymddangos fel pe bai’r cyrff wedi bod yno am rai dyddiau cyn i neb ddod o hyd iddyn nhw.

Mae crwner Mobile wedi dweud y pump o bobol wedi’u mwrdro mewn modd “greulon a chïaidd”, a bod yr olygfa oedd yn ei hwynebu yn un o’r gwaetha’ iddi weld mewn 20 mlynedd fel erlynydd.

Mae dyn o’r enw Derrick Dearman o Leakesville, Mississippi, wedi’i gadw yn y ddalfa, wedi iddo gerdded o’i wirfodd i mewn i swyddfa’r Siryf yn Greene, gan gyfadde’ lladd y pump.