Mae bom a oedd wedi’i thargedu at barti priodas awyr agored yn ne-ddwyrain Twrci, wedi lladd beth bynnag 50 o bobol ac anafu 94 o bobol eraill.

Mae’n ymddangos mai gweithred hunanfomiwr oedd yr ymosodiad yn ninas Gaziantep, ger y ffin â Syria.

Ond mae rhai o’r awdurdodau’n dweud y gallai’r ymosodiad fod yn waith gwrthryfelwyr Cwrdaidd neu eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae ffotograffau o’r dinistr wedi’r ffrwydriad yn dangos nifer o gyrff wedi’u gorchuddio â llieiniau gwynion, a thorf wedi ymgasglu gerllaw.