Mae pennaeth y bloc mwya’ o wledydd Mwslimaidd yn y byd wedi dweud ei fod yn poeni am hawliau dynol y bobol sy’n byw yn ardal Kashmir – ardal sydd wedi gweld wythnosau o frwydro rhwng gwrthryfelwyr Mwslimaidd a’r heddlu.

Fe ddywedodd Iyad Madani, ysgrifennydd cyffredinol sefydliad sy’n cynnwys 57 o wledydd Mwslimaidd, fod y sefyllfa yn Kashmir yn dirywio, ac fe apeliodd ar y gymuned ryngwladol i ymateb.

Mae o leia’ 63 o bobol gyffredin wedi’u lladd yn yr ardal ym mynyddoedd yr Himalaya – y rhan fwya’ ohonyn nhw gan filwyr India – ers i arweinydd y gwrthryfelwyr gael ei ladd fis diwetha’ ac ail-ddechrau’r protestio yn erbyn rheolaeth India.

Mae Kashmir wedi’i rannu rhwng India a Pacistan, ac mae’r ddwy ochr yn ei hawlio. Mae’r mwyafrif o bobol Kashmir o blaid eu rhyddhau eu hunain o reolaeth India, ac uno’n llawn efo Pacistan.