Mae’r Taliban wedi cipio ardal yn nhalaith gogledd-ddwyreiniol Afghanistan, Kunduz.

Mae adroddiadau’n dweud fod y gwrthryfelwyr wedi bod yn ymosod o bob cyfeiriad ar bencadlys y lluoedd diogelwch yn Khan Abad, ond y gred ydi fod y lluoedd yn bwriadu cipio’r ardal yn ôl yn fuan.

Fe ddaeth cadarnhad gan lefarydd ar ran y Taliban fod eu hymladdwyr nhw wedi ennill rheolaeth dros yr ardal gyfan, ac wedi cipio arfau a cherbydau milwrol yn y broses.

Mae lluoedd diogelwch Afghanistan bellach yn ymladd y Taliban mewn o leia’ bymtheg ardal allan o gyfanswm o 34 ardal.

Ym mhrifddinas Afghanistan heddiw, fe gafodd milwr ei ladd gan fom a osodwyd ar ei gerbyn yn Kabul.