Mae awdurdodau’r môr yn Malaysia ac Indonesia yn chwilio am dancer olew a’i chriw o ddeg, sydd wedi diflannu oddi ar y radar.

Y gred ydi fod y tancer, ‘Vier Harmoni’ wedi’i heijacio wrth adael porthladd yn Johor yn ne Malaysia, ac wedi’i chymryd i gyfeiriad ynys Batam, i’r de o Singapôr yn Indonesia.

Y cwmni sy’n berchen y tancer ydi’r Vierlines Asia Group, ac mae’r deg o weithwyr ar ei bwrdd yn dod o Indonesia. Mae ei chapten yn ddyn profiadol, ac fe ddaeth cadarnhad ei bod yn cario 900,000 litr o ddiesel wrth adael Tanjung Pelepas, Johor.

Fe adeiladwyd y tancer 175 troedfedd yn 2014.