Mae pedwar o bobol wedi’u lladd yn Kashmir, wrth i gannoedd o bobol fynd ben-ben â’r heddlu mewn protestiadau yn erbyn llywodraeth India.

Mae beth bynnag 15 o bobol eraill wedi’u hanafu, a’r tri o’r rheiny mewn cyflwr difrifol iawn.

Fe fu’r heddlu’n saethu bwledi er mwyn ceisio rheoli’r dorf oedd yn taflu cerrig ac yn siantio sloganau ym mhentre’ Aripanthan. Ond unwaith y torrodd y newyddion am y marwolaethau, fe ddaeth mwy o brotestwyr allan o bentrefi cyfagos i siantio “India, dos yn ôl!”  a “Rydan ni eisiau rhyddid!”

Mae Kashmir yn ardal sydd wedi’i rhannu rhwng India a Phacistan, ac mae’r ddwy wlad yn ei hawlio. Mae teimladau cryfion yn erbyn India ymysg y boblogaeth Mwslim yn Kashmir, lle mae’r mwyafrif o blaid annibyniaeth neu uno â Phacistan.