Mae heddlu Efrog Newydd wedi arestio a chyhuddo dyn o lofruddiaeth, wedi i imam a’i ffrind gael eu saethu yn y ddinas, wrth iddyn nhw adael mosg.

Mae Oscar Morel, 35, wedi’i gyhuddo o ddau achos o lofrduddiaeth, a dau achos o fod ag arf yn ei feddiant. Fe gafodd ei gymryd i’r ddalfa ddeng munud yn unig wedi’r saethu yn ardal Queens yn hwyr nos Sadwrn.

Fe gafodd Oscar Morel ei arestio y tu allan i fflat yn ardal Brooklyn, wedi iddo yrru ei gar yn fwriadol i mewn i gar heddlu oedd yn ceisio ei rwystro.

Ddoe, fe ddaeth tua mil o bobol ynghyd dan gysgod pebyll i dalu teyrnged i’r imam 55 oed a’i gyfaill 64 oed mewn gwasanaeth angladd Islamaidd emosiynol iawn.