Mae heddlu’r Awstria wedi arestio naw o ddynion o Irac ar amheuaeth o dreisio ymwelydd o’r Almaen yn Fienna ar ddydd cynta’r flwyddyn.

Mae llefarydd ar ran heddlu Fienna wedi cadarnhau fod y dynion yn amrywio o 21 i 47 oed. Mae pob un unai wedi cael lloches, neu wedi gwneud cais am loches.

Maen nhw’n cael eu hamau o fynd â’r ddynes o Schwedenplatz yng nghanol y ddinas i apartment lle’r oedd dau o’r dynion yn byw. Yn y fan honno y maen nhw’n cael eu hamau o dreisio’r ddynes. Mae’r dynion yn gwadu’r cyhuddiadau.

Mae heddlu Fiennu yn dweud eu bod yn defnyddio tystiolaeth DNA a fideo fel sail i’w hachos.