Mae adroddiadau o ergydion o wn ym Maes Awyr Rhyngwladol JFK yn Efrog Newydd, wedi achosi ofn ac anhrefn yno, cyn i’r sïon gael eu gwrthbrofi.

Fe ddechreuodd yr heddlu wagio Terfynnell 8 y maes awyr tua 9.30yh nos Sul (amser Efrog Newydd) a hynny wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau fod bwledi wedi’u tanio ger yr adran ymadawiadau.

Toc wedyn, fe gaewyd Terfynnell 1 gan yr heddlu, wedi iddyn nhw dderbyn mwy o adroddiadau yn cyfeirio at synau fel tanio gwn. Fe gaewyd hefyd y Van Wyck Expressway.

Mae awdurdodau’r maes awyr yn rhybuddio teithwyr i gysylltu gyda’u cwmnïau teithio cyn mynd yno, ac i fod yn barod am bresenoldeb cry’ o blismyn a swyddogion diogelwch.