america
Mae un dyn wedi’i saethu yn ystod protest yn Milwaukee, yn ystod ail noson o drais wedi i ddyn du gael ei saethu gan yr heddlu.

Fe fu tua dau ddwsin o blismyn mewn dillad reiat yn herio grwp o brotestwyr oedd yn taflu cerrig ac eitemau eraill at yr heddlu yn yr ardal lle cafodd dyn du ei saethu’n farw echdoe.

Fe fu’r heddlu’n ceisio gwasgaru’r dorf, ac fe gafodd nifer eu harestio nos Sul.

Mae teledu lleol wedi dangos lluniau o’r heddlu’n ffurfio un llinell hir ac yn codi tariannau reiat er mwyn gwarchod eu hunain rhag cerrig a phethau eraill gafodd eu taflu atyn nhw.

Fe gwympodd un heddwas i’r llawr ar ôl cael ei daro, ac fe gafodd heddwas arall ei gludo i’r ysbyty wedi i garreg fawr daro ffenest flaen car heddlu.