Traeth yn Phuket (Llun parth cyhoeddus)
Mae o leia’ bedwar o bobol wedi eu lladd a dwsinau wedi eu hanafu wrth i fomiau ffrwydro mewn o pedair ardal wahanol o Wlad Thai.

Ymysg yr ardaloedd sydd wedi cael eu targedu mae’r gyrchfan wyliau boblogaidd Phuket ac mae adroddiadau fod twristiaid wedi gorfod dianc rhag y ffrwydradau.

Dywedodd yr heddlu ei bod hi’n rhy fuan i ddweud pwy oedd y tu ôl i’r ymosodiadau ond maen nhw wedi diystyru brawychaeth ryngwladol.

Ymosodiadau

Bu farw gwerthwr stryd a chafodd tua 20 eu hanafu mewn dau ffrwydrad yn Hua Hin, dinas traeth tua 120 milltir i’r de-orllewin o Bangkok, nos Iau.

Ffrwydrodd dwy fom arall yn Hua Hin fore Gwener gan ladd un person ac anafu pedwar.

Dywedodd swyddogion ysbytai bod llawer o’r rhai sy’n cael eu trin yn dod o wledydd Ewropeaidd gan gynnwys yr Almaen, yr Eidal, Awstria a’r Iseldiroedd.

Bu ymosodiadau hefyd ar draeth Patong yn Phuket yn ne Gwlad Thai ac yn nhaleithiau deheuol Trang, Surat Thani a Phang Nga. Bu farw un yn y ffrwydrad Trang a chafodd un arall ei ladd yn yr ymosodiad yn Surat Thani.

Effaith ar dwristiaeth

Hyd yn oed wrth i’r heddlu chwilio am y rhai sy’n gyfrifol ac wrth i ofnau am ragor o ymosodiadau barhau, mae pryderon eisoes wedi codi am effaith yr ymosodiadau ar dwristiaeth yn y wlad.

Mae miliynau yn ymweld a Phuket bob blwyddyn ac er bod y trefi eraill sydd wedi eu taro yn gyrchfannau rhyngwladol llai amlwg, maen nhw dal yn boblogaidd.

Mae’r Swyddfa Dramor a llywodraethau eraill, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Almaen ac Awstralia, yn cynghori eu dinasyddion sy’n teithio yng Ngwlad Thai i fod yn ofalus.