Mae 14 o bobol wedi mynd ar brawf yn Sawdi Arabia, dan amheuaeth o achosi i graen ddisgyn yn ninas Mecca a lladd 111 o bererinion ar ddechrau tymor hajj y llynedd.

Yn eu plith y mae biliwnydd o Sawdi Arabia, dau o Bacistan, un dyn o Ganada, dyn o’r Iorddonen, Palesteina, Yr Aifft; dyn o’r Emiradau Arabaidd, ac un o’r Ffilipinas. Dydi eu henwau ddim wedi’u cyhoeddi.

Pan syrthiodd y craen 1,350 tunnell yng nghanol gwyntoedd cryfion, fe gwympodd ar ben y Mosg Mawr yn Mecca, gan ddwyn slabiau o goncrid am ben yr addolwyr islaw.

Mae’r diffynyddion yn wynebu cyhuddiadau o flerwch, yn ogystal â difrodi eiddo cyhoeddus ac o anwybyddu rheolau iechyd a diogelwch.