Mae dyn sy’n cael ei amau o fod yn hunanfomiwr, wedi marw yn ystod cyrch gan heddlu Canada i geisio rhwystro ymosodiad ganddo.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn y wlad yn dweud mai bwriad Aaron Driver, dyn yn ei 20au o Winnipeg, Manitoba, oedd ffrwydro dyfais ar ei gorff mewn man cyhoeddus.

Roedd Aaron Driver wedi’i orchymyn gan lys yn gynharach eleni i beidio cysylltu o gwbwl gydag unrhyw sefydliad terfysgol, yn cynnwys y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a Levant.

Fe fu’r heddlu’n gweithio ymhell i’r nos er mwyn ceisio rhwystro Aaron Driver rhag achosi celanedd yn nhre’ Strathroy, tua 140 milltir i’r de-orllewin o Toronto.