cynlluniau wedi’u cymeradwyo i orfodi ymwelwyr i Wlad Thai ddefnyddio cardiau Sim arbennig a fyddai’n galluogi’r awdurdodau i dracio eu ffonau symudol.

Cafodd y cynlluniau sêl bendith gan reoleiddiwr telegyfathrebu’r wlad, ac y bydd yn ymgynghori â’r heddlu ac awdurdodau a chwmnïau twristiaeth cyn penderfynu eu rhoi ar waith.

Yn ôl y comisiwn telegyfathrebu, fydd defnyddiwr y Sim ddim yn gallu diffodd y ddyfais dracio ond mae’n gwadu ei fod yn tresbasu ar breifatrwydd.

Yn ôl y corff, y bwriad yw dal y sawl sy’n aros yn y wlad yn hirach nag y mae eu visas yn caniatáu, ac i ddod o hyd i droseddwyr. Byddai angen caniatâd llys i dracio’r ffonau.