Mae uned arbenigol o heddlu’r Almaen wedi atal aelod honedig o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn nhre’ Mutterstadt yn ne-orllewin y wlad.

Fe gafodd y ceisiwr lloches 24 oed ei atal wedi i garcharor siarad â’r heddlu ac awgrymu y gallai fod ar berwyl achosi niwed i dimau pêl-droed y Bundesliga a’u cefnogwyr.

Does yna ddim mwy o wybodaeth wedi’i rhyddhau ar hyn o bryd, ond mae’r awdurdodau Almaenig yn dweud nad oes bygythiad pellach.